BUBBLEMAKERS - Yn arbennig I blant 8 oed I fyny. Dyma'r profiad scuba llawnaf wedi ei gynllunio gan 'PADI' i godi awydd. Caif ei gynnai yn awyrgyich saff y pwll nofio o dan ofal ac arweiniad hyfforddwr proffesiynoi. Mae hyn yn ffordd wych i gyflwyno profiadau scuba I blant ifanc. Syniad ardderchog ar gyfer parti!

DARGANFOD SCUBA - Hon yw'r ffordd orau i roi cynnig ar anturiaethau deifio scuba l unrhyw un sydd dros 12 oed. Mae'r sesiwn hwn sy'n cael ei gynnai yn y pwll nofio yn rhoi cyfle l chi ddarganfod y byd anhygoel sydd o dan y dwr.

DARGANFOD DEIFIO SCUBA - Ffordd anhygoel arall o gyflwyno'r byd o dan y mor. Caiff sesiwn boreoi ei gynnai yn y pwll nofio gan symud ymlaen yn y prynhawn i gael profiad o ddeifio yn y dwr agored.

DEIFIO SCUBA PADI - Cwrs deuddydd sydd yn eich cymhwyso l ddeifo gyda deifiwr PADI proffesiynol. l gymhwyso fel deifiwr scuba rhaid dysgu ychydig o theori ac arbenigo yn rhai o'r sgiliau sylfaenol sy'n ymwneud a deifio scuba. Cychwynir cwrs yn y pwll gan symud allan l'r dwr agored, lle bydd sgiliau a ddysgwyd yn cael eu rhoi ar waith. Ar gael i blant rhwng 12 a 15 oed fel 'junior scuba diver'. Gellir cael cymhwysterau uwch fel deifiwr dwr agored os dymunir.

DEIFIWR DWR AGORED - Mae lefel gynta'r cwrs yn eich cyflwyno l ddeifio gyda 'buddy' mewn unrhyw wlad yn y byd. Cwrs tri diwrnod l'r rhai sydd dros bymtheg oed yn cynnwys theori deifio ac arbenigo yn y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen gan gwblhau pedair deif dwr agored. Hefyd ar gael fel cymhwyster i blant rhwng 12 a 15 oed.

DEIFIWR DWR AGORED (CWRS CYFEIRIO) - Cwrs poblogaidd l'r rhai sy'n dymuno deifio dramor ond sydd ddim eisiau trulio'r rhan fwyaf o'u gwyliau yn y dosbarth. Caiff y theori a'r sesiynau pwll eu cynnal yn lleol gan rhoi cymhwyster rhannol i chwi tra bydd gweddill y cwrs yn cael ei gwblhau dramor cynhesach. Ar gael l bawb dros 12 oed.

PARHAU GYDA ADDYSG SCUBA - Cyrsiau ar gael: 'Advanced open water diver', 'Rescue diver', Master scuba diver and Divemaster', 'Medic First Aid', ynhyd a nifer o gyrsiau arbenigol.

Am fwy o fanylion cysylltwch a Jason Owen, hyfforddwr PADI ar: 01286 882611 neu 07990 683901 (mobeil).

Gostyngiad I grwpiau.

 

Back

Contact us

Prices